Cymharu dau beth drwy ddweud bod rhywbeth FEL rhywbeth arall. e.e. "Wyneb bach crwn fel pêl a llygaid mawr brown fel llygaid llo bach oedd ganddi." - Cyffelybiaeth, Cymharu drwy ddweud fod rhywbeth yn rhywbeth arall. e.e. "Roedd yr iard ysgol yn fin sbwriel blêr." - Trosiad, Cymharu dau beth drwy ddefnyddio MOR neu MEGIS i'w cysylltu. e.e."Roedd ei wallt mor seimllyd â sosban sglodion." - Cymhariaeth, Rhoi dau ansoddair ar ol ei gilydd er mwyn cryfhau beth sy'n cael ei ddisgrifio ac er mwyn effaith. e.e. "Roedd wyneb y ferch fach yn llyfn, esmwyth a meddal." - Ansoddair dwbwl, Gwneud i rywbeth ymddangos fel ei fod yn berson go iawn ond dydi o ddim. e.e. "Roedd breichiau'r goeden yn ymestyn allan i'r cae." - Personoli, Ffordd arbennig o ddweud rhywbeth yn eich iaith eich hun. Dywediadau bron. e.e."Roedd mam bob tro yn gwneud môr a mynydd o bethau." - Idiom/ Priod-ddull, Ailadrodd gair neu frawddeg er mwyn pwysleisio a chreu effaith. e.e. "Roedd y bachgen bach wedi marw. Wedi marw,." - Ailadrodd, Ailadrodd yr un lythyren i greu effaith. e.e "Bwled wedi'i bwrw." - Cyflythrennu, Pan fo sŵn gair yn awgrymu ei ystyr. e.e. "rhuo", "rhochian", "bang!". - Onomatopeia, Y newid mewn iaith sy’n cael ei siarad sy’n dweud i ba ran o’r wlad neu ardal mae person yn perthyn. e.e."Ma da fi wejen yn barod." / "Ma' gin i gariad yn barod." - Tafodiaith, Iaith nad yw o safon dda iawn. Gall olygu fod yna eiriau Saesneg yna neu eiriau annerbyniol. e.e."Mi oedd y quad bike wedi iwshio y diesel i gyd ac roedd rhaid i mi jump startio fo er mwyn mynd adra." - Bratiaith, Gosod dau beth ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn pwysleisio’r gwahaniaeth rhyngddynt. e.e."Ei gweld yn cerdded a chwympo." - Gwrthgyferbynnu,

Tabla de clasificación

Estilo visual

Opciones

Cambiar plantilla

¿Restaurar actividad almacenada automáticamente: ?