Mae hwn yn caniatáu i’r system bennu safle’r crancsiafft perthynol i ganol llonydd uchaf y silindr perthnasol., Mae’r systemau hyn yn defnyddio coil ar wahân ar gyfer pob plwg tanio ac felly maen nhw’n darparu foltedd uchel iawn., Fel arfer, mae dwy ‘adran’ i’r dosbarthydd. Mae un o’r rhain yn gweithredu ar foltedd isel i roi cycled ymlaen neu ddiffodd cylched er mwyn gweithredu’r coil tanio. Mae’r ‘adran’ arall yn dosbarthu’r foltedd uchel o’r coil i’r plygiau tanio trwy’r gwifrau tensiwn uchel., Mae’r systemau hyn yn defnyddio coil pen dwbl arbennig sy’n rhoi taniad i’r ddau silindr wedi’u lleoli wrth y canol llonydd uchaf (cywasgu a gwacáu); defnyddir synhwyrydd i bennu safle’r crancsiafft., Mae’r uned reoli electronig yn fath o gyfrifiadur sy’n cael ei ddefnyddio i reoli gweithrediad system tanio electronig. Mae’n derbyn signalau o nifer o synwyryddion a dyma sylfaen y system reoli injan., Mae hwn yn cynyddu foltedd y batri mewnbwn (12 folt) i foltedd uchel iawn (yn fwy na 10000 folt) i greu gwreichionen wrth y plwg tanio sy’n ddigon cryf i danio’r cymysgedd., Mae’r gwifrau tensiwn uchel yn cario’r foltedd uchel o’r coil i’r plygiau tanio. Mewn rhai systemau, mae’r gylched tensiwn uchel yn integredig ac nid yw gwifrau’n cael eu defnyddio., Mae’r synhwyrydd hwn wedi’i osod wrth y siambr hylosgi a gall synhwyro taniad. Bydd hwn wedyn yn newid yr amseriad tanio i weddu i’r amodau., Mae’r rhain yn cael eu gosod ar y siambr hylosgi. Wrth i’r foltedd uchel, ar ffurf gwreichionen, yn teithio ar draws bwlch mae’n tanio’r cymysgedd awyr/tanwydd.,

Top-lista

Tema

Postavke

Promijeni predložak

Vrati automatski spremljeno: ?