1) Ym mha ganrif gafodd Dewi Sant ei eni? a) 3ydd ganrif b) 4ydd ganrif c) 5ed ganrif d) 6ed ganrif 2) Beth oedd enw mam Dewi Sant? a) Nesta b) Non c) Nora d) Nan 3) Ble cafodd Dewi Sant ei eni? a) Capel Iwan b) Capel Dewi c) Capel Non d) Capel Helen 4) Ble cafodd Dewi Sant ei addysg? a) Ysgol Y Dderi b) Mynachdy Henfynyw c) Ysgol Gynradd Aberaeron d) Ysgol Bro Pedr 5) Beth oedd enw athro Dewi Sant? a) Peulin b) Idwal c) Peter d) Idris 6) Beth oedd gwyrth cyntaf Dewi Sant? a) Troi Dŵr yn waed b) Adfer golwg ei athro Peulin c) Adeiladu mynachdy d) Cerdded ar ddŵr 7) Ble adeiladodd Dewi Sant mynachlog? a) Glyn Rhosyn b) Glyn Ebwy c) Glyn Cennin d) Glyn Mawr 8) Ble fu Dewi yn anerch y dorf er mwyn dwyn Cymru yn ôl at Grist? a) Llangybi b) Tregaron c) Llanddewi Brefi d) Llambed 9) Beth gododd wrth i Dewi Sant anerch y dorf yn Llanddewi Brefi? a) Y ddaear b) Carreg enfawr c) Mynydd d) Wal 10) Beth glaniodd ar ysgwydd Dewi Sant yn Llanddewi Brefi wrth anerch y dorf? a) Eryr b) Cath c) Llaw rhywun d) Colomen 11) Beth oedd Dewi Sant yn annog i bobl ei wneud? a) Pethau bychain b) Pethau mawr c) Pethau coch d) Pethau glas 12) Ar pa dyddiad fu farw Dewi Sant? a) 30ain o Ebrill b) 1af o Ionawr c) 25ain o Ragfyr d) 1af o Fawrth 13) Pa ddinas sydd wedi cael ei henwi ar ôl Dewi Sant? a) Tre Ddewi b) Dewi Sant a'r Fro c) Tŷ Ddewi d) Pentref Dewi 14) Beth yw'r lliwiau ar faner Dewi Sant? a) Pinc a melyn b) Coch, gwyn a gwyrdd c) Du a melyn d) Coch a gwyrdd 15) Beth yw blodyn traddodiadol Dydd Gŵyl Dewi? a) Rhosyn b) Llygaid y dydd c) Blodyn yr haul d) Daffodil 16) Pa fath o gacen y mae pobl yn bwyta ar Ddydd Gŵyl Dewi? a) Cacen siocled b) Pice ar y maen c) Cacen lemwn d) Cacen pinafal

Leaderboard

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?