1) Pa un o'r canlynol yn ofynnol i chi ddweud wrth yr HSE am anafiadau neu afiechydon difrifol? a) HASAWA b) COSHH c) RIDDOR d) PUWER 2) Beth yw hysbysiad gwahardd? a) Cyfarwyddyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i stopio pob gwaith b) Cyhoeddiad gweithgynhyrchwr i stopio pob gwaith c) Penderfyniad contractwr safle i beidio â defnyddio deunyddiau penodol d) Awdurdod lleol yn gwahardd y defnydd o fath penodol o fricsen 3) Pa un o’r canlynol sydd yn cael ei ystyried i fod yn fân anaf? a) Clais ar y ben-glin b) Cyfergyd c) Cwt d) Amlygiad i fygdarthau 4) Os oes damwain ar safle pwy sy’n debygol o fod y cyntaf i ymateb? a) Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) b) Parafeddygon c) Yr Heddlu d) Swyddog Cymorth Cyntaf 5) Pa un o’r canlynol sy’n darparu canllawiau i gyflawni tasg yn ddiogel? a) Trwydded i weithio b) Llyfr peryglon c) Datganiad monitro d) Datganiad dull 6) Pa rai o’r canlynol sydd yn enghreifftiau o ddeunyddiau hylosg? a) Gludyddion b) Paentiau c) Asiantau glanhau d) Pob un o’r rhain 7) Beth yw dermatitis? a) Llid ar y croen b) Llid ar y glust c) Llid ar y llygad d) Llid ar y trwyn 8) Mae sgriniau, rhwydi a gardiau ar y safle yn enghreifftiau o ba un o’r canlynol? a) Cyfarpar amddiffynnol personol b) Arwyddion c) Diogelwch perimedr d) Cyfarpar trydanol 9) Pa un o’r canlynol sydd hefyd yn cael ei adnabod fel lifft siswrn neu ‘cherry picker’? a) Llifiau mainc b) Offer pŵer llaw c) Cymysgwyr sment d) Llwyfannau gwaith codi symudol 10) Rolau a chyfrifoldebau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw … a) Gorfodi b) Deddfwriaeth a chyngor c) Arolygu d) Pob un o’r uchod

Leaderboard

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?