Llif pyroclastig - Cymysgedd o nwy, lludw a darnau bach o graig folcanig sydd i gyd yn boeth. Mae'n llifo'n gyflym i lawr llethrau llosgfynydd yn ystod rhai echdoriadau ffrwydrol., Lahar - Gair o Indonesia sy'n disgrifio llifogydd o ddŵr a lludw folcanig neu dirlithriad o laid i lawr llethr llosgfynydd., cwmwl o ludw - Darnau bach powdr o graig sy'n cael eu taflu o losgfynydd yn ystod echdoriad ffrwydrol., jökulhaup - Gair o Wlad yr Iâ - llif sydyn sy'n cael achosi pan fydd llosgfynydd yn echdorri o dan yr iâ., llif lafa - Craig wedi toddi (lafa) yn rhedef i ffwrdd o agorfa folcanig. Yn aml mae llifoedd lafa yn creu arweddion gwastad mawr o'r enw meysydd lafa., tsunami - Cyfres o donnau mawr pwerus sy'n cael ei ffurfio wrth i ddŵr gael ei ddadleoli gan symudiad llawr y cefnfor/gwely'r llyn yn ystod daeargryn., echdoriad - Ffrwydriad llosgfynydd. Mae'r peryglon yn amrywio o lafa, i lwch neu lifau pyroclastig., Perygl cynradd - Peryglon sydd yn digwydd yn uniongyrchiol oherwydd gweithgaredd tectonig e.e lafa, llwch neu ddirgryniadau daeargryn., Perygl eilaidd - Effeithiau anuniongyrchol sy'n cael eu hachosi gan y peryglon gwreiddiol e.e. tsunmai neu laha, Tirlithirad - Cwymp sydyn llethr dan ei bwysau ei hun wrth i'r ddaear ysgwyd., Hylifiad - Wrth i'r ddaear gael ei hysgwyd bydd dŵr mewn creigiau a phridd yn codi i'r wyneb a'r tir yn ymddwyn yn debycach i ddŵr—pethau'n suddo., Dirgryniad - Ddaear yn ysgwyd., ôl gryniadau - Daeargrynfeydd (fel arfer yn llai) sy'n digwydd funudau neu ddiwrnodau ar ôl daeargryn mawr., uwchganolbwynt - Y pwynt ar arwyneb y ddaear lle mae'r ddaear yn ysgwyd gyntaf yn sgil daeargryn. Mae union uwchben y canolbwynt., canolbwynt - Y pwynt o dan y ddaear o le mae egni 'n lledaenu yn ystod daeargryn., Graddfa Richter - Mesur o gryfder daeargryn.,

Leaderboard

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?