1) Fydd y dosbarth yn mwynhau Uned 5? a) Byddwn b) Bydd c) Bydda d) Byddan 2) Ydyn nhw isio ymarfer siarad Cymraeg? a) Ydyn b) Ydan c) Oes d) Ie 3) Fasai Helen yn licio mynd i ffwrdd? a) Baswn b) Basech c) Basai d) Baset 4) Ydy o wedi bod yn gweithio? a) Ydy b) Ie c) Do d) Oes 5) 'Sgan y tiwtor gar newydd? a) Ie b) Ydy c) Oes d) Do 6) Faset ti'n licio dod efo fi? a) Baset b) Basen c) Baswn d) Ie 7) Mae hi'n braf heddiw. a) Ydy b) Oes c) Ie d) Ydyn 8) Mae 'na ddigon o le yma. a) Ydy b) Oes c) Ie d) Ydw 9) Yn Llangollen wyt ti'n byw? a) Ie b) Ydw c) Ydan d) Oes 10) Gaethon nhw amser da? a) Gaethon b) Do c) Ie d) Ydyn 11) Oeddech chi yn yr ysgol efo'ch gilydd? a) Ôn b) Oedden c) Oes d) Do 12) Ddylai'r plant chwarae yn yr ardd? a) Dylai b) Dylwn c) Dylen d) Dylech 13) Bore 'ma wnest ti fynd i'r siop? a) Do b) Ie c) Ydw d) Ydy 14) Ydych chi'n licio byw yng Ngogledd Cymru? a) Ydy b) Ydyn c) Ydan d) Ydych 15) Mae gynnyn nhw ddigon o deganau! a) Ydy b) Ie c) Oes d) Ydyn

Leaderboard

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?