1. - Amser maith yn ôl, roedd Brenin o’r enw Brychan Urth. Ef oedd Brenin Brycheiniog. Roedd ganddo ferch hardd o’r enw Dwynwen., 2. - Un diwrnod, daeth tywysog o’r enw Maelon Dafodrill i’r llys. Syrthiodd Dwynwen a Maelon mewn cariad., 3. - Roedd y Brenin wedi trefnu i Dwynwen briodi tywysog pwysig. Ond roedd Dwynwen mewn cariad gyda Maelon., 4. - Felly aeth dwynwen at ei thad i ddweud nad oedd hi eisiau priodi’r tywysog. “Mae’n rhaid i ti briodi’r tywysog rydw i wedi dewis i ti!” meddai’r Brenin., 5. - Rhedodd Dwynwen at Maelon a dywedodd beth oedd ei thad wedi dweud. Pan glywodd Maelon hyn, gwylltiodd a dywedodd nad oedd byth eisiau gweld hi eto., 6. - Torrodd Dwynwen ei chalon. Penderfynodd fynd i guddio yn yr goedwig. Gofynnodd i Dduw am help iddi anghofio am Maelon., 7. - Yn y goedwig breuddwydiodd Dwynwen a gwelodd angel., 8. - Rhoddodd yr angel ddiod hud iddi. Yfodd Dwynwen y diod a throdd Maelon yn lwmp o rew!, 9. - Rhoddodd yr angel dri dymuniad i Dwynwen. Gofynnodd Dwynwen i Maelon gael ei ddadmer (defrosted), i helpu cariadon Cymru ac i byth priodi., 10. - Daeth y tri dymuniad yn wir. Aeth i fyw ar ynys fach yn Ynys Môn. Cafodd yr ynys ei galw’n Ynys Llanddwyn., 11. - Daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon Cymru., 12. - Heddiw, mae cariaduron yng Nghymru yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25ain ac yn danfon cardiau serch i’w gilydd.,

Leaderboard

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?