1) Fasech chi'n hoffi mynd i'r gofod? 2) Pa wlad sy yn y newyddion ar hyn o bryd? 3) Disgrifiwch eich ardal enedigol chi mewn dwy frawddeg. 4) Beth yw dyddiad dy ben-blwydd di? 5) Pa archfarchnad yw'r orau yn yr ardal? Pam? (Defnyddiwch taw) 6) Pryd aethoch chi ar fws ddiwetha? I ble? 7) Ble byddwch chi'n mynd nesa i siarad Cymraeg? 8) Oes hoff elusen gyda chi? Pam? 9) Pam mae pobl yn defnyddio Twitter, Facebook ac ati? 10) Dych chi'n berson da am drefnu? 11) Disgrifiwch eich prif ddiddordeb mewn dwy frawddeg. 12) Ydy'r tywydd yn effeithio ar eich hwyliau chi? Sut? 13) Beth ddylech chi fod wedi (ei)wneud dros y penwythnos? 14) Disgrifiwch yr ardal ble dych chi'n byw nawr mewn dwy frawddeg. 15) Beth oedd y rhaglen deledu orau pan o'ch chi'n blentyn/yn ifanc? (Defnyddiwch taw) 16) Dych chi'n rhoi pethau i siop elusen? 17) Oes hoff amgueddfa neu oriel gyda chi? Pam? 18) I ble basech chi'n symud, tasai rhai i chi symud ardal? 19) Dych chi'n hoffi defnyddio Twitter? 20) Beth ddylech chi (ei) wneud i wella eich Cymraeg chi? 21) Ble mae'r lle hardda yn yr ardal? 22) Pa un yw eich hoff ystafell chi yn y tŷ? Pam? 23) Dych chi wedi cael trafferth gyda thywydd gwael erioed? 24) Beth yw'r peth gorau am ddsygu Cymraeg? 25) Dych chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? 26) Disgrifiwch eich gwyliau diwetha chi mewn dwy frawddeg. 27) Beth fasech chi'n (ei) wneud tasech chi'n ennill y loteri? 28) Yn yr ardal yma, pa leoedd sy'n ddiddorol i dwristiaid? Pam? 29) Oes hoff anifail anwes gyda chi? Pam? 30) Pryd ro'ch chi ar draeth ddiwetha? Pa draeth oedd e? 31) Beth yw'r peth gorau am ddysgu Cymraeg? 32) Pa mor aml dych chi'n cerdded i'r dre/i'r gwaith/i'r dosbarth? 33) Disgrifiwch eich gwaith (diwethaf os dych chi wedi ymddeol) mewn dwy frawddeg. 34) Dych chi'n defnyddio facebook? 35) Gyda phwy fasech chi’n hoffi cael pryd o fwyd arbennig? Pam? 36) Disgrifiwch aelod o'r teulu sy/oedd yn bwysig i chi mewn dwy frawddeg. 37) Beth fydd yn digwydd yn y dyfodol agos yn eich bywyd chi? 38) Dych chi'n meddwl bod caddw anifail anwes yn dda i bobl? 39) Disgrifiwch eich prif ddiddordeb chi pan o'ch chi'n blentyn mewn dwy frawddeg. 40) Beth brynoch chi ddiwetha fel anrheg i rywun? 41) Dych chi'n ceisio ailgylchu gwastraff? 42) Dych chi wedi trefnu digwyddiad erioed? 43) Dych chi'n bwyta llai o gig nag ro'ch chi ddeg mlynedd yn ôl? 44) Gyda phyw fasech chi'n hoffi cael sgwrs yn Gymraeg? Pam? 45) Pam dechreuoch chi ddod i ddosbarth Cymraeg? 46) Ble aethoch chi ar eich gwyliau dwetha chi, a sut aethoch chi? 47) Tasech chi'n cael mtynd am bryd o gwyd i unrhyw le, i ble basech chi'n mynd? 48) Fasech chi'n dweud eich bod chi'n 'berson gwyrdd'? Pam / Pam lai? 49) Disgrifiwch ffrind da mewn dwy frawddeg. 50) Tasech chi'n cael treulio penwythnos yn rhwyle, i ble basech chi'n hoffi mynd? 51) Pryd aethoch chi ar drên ddiwetha? I ble? 52) Beth oedd yr anrheg ddiwetha gaethoch chi? 53) Dych chi'n ceisio prynu bwyd lleol?

Canolradd Adolygu Gem o Gardiau Uned 19 (newydd)

Табела

Визуелни стил

Поставке

Промени шаблон

Врати аутоматски сачувано: ?