1) Mae pob mater wedi cael ei lunio allan o ronynnau bychan a elwir yn... a) gronynniolynnau b) particlau c) atmosfferau d) atomau e) ionynnau 2) Dewiswch y diffiniad cywir ar gyfer ELFEN: a) Sylwedd eithaf pur efo atomau. b) Sylwedd efo atomau metelaidd yn unig. c) Sylwedd efo atomau o anfetelau yn unig. d) Sylwedd amhur. e) Sylwedd pur sy'n cynnwys dim ond un math o atom. 3) Mae gan NIWTRON gwefr... a) niwtraleiddio. b) niwtral (dim gwefr). c) positif. d) negatif. 4) Mae gan broton mas... a) positif. b) sydd bron iawn yn sero/ddi-bwys. c) negatif. d) o 1 uned atomaidd. e) bendigedig. 5) Mae gan electronau... a) mas bron iawn yn sero a gwefr negatif. b) mas bron iawn yn sero a gwefr positif. c) mas o 1 a gwefr negatif. d) job pwysig gan fod trydan yn hanfodol i'n bywydau dyddiol. 6) Pwy ddatblygodd ffurf modern y Tabl Cyfnodol? a) Einstein b) Marie Curie c) Charles Darwin d) Mendeleev e) Avogadro f) John Dalton 7) Mae grwpiau (fertigol) a chyfnodau (rhesi llorweddol) i'r Tabl Cyfnodol. Pa grwp sydd efo'r enw Y Metelau Alcaliaidd? a) 1 b) 2 c) 3 d) 6 e) 7 f) 0 8) Mae grwpiau (fertigol) a chyfnodau (rhesi llorweddol) i'r Tabl Cyfnodol. Pa grwp sydd efo'r enw Yr Halogenau? a) 1 b) 2 c) 3 d) 6 e) 7 f) 0 9) Mae'r elfen Calsiwm yng Ngrwp 2 y Tabl Cyfnodol ac mae ganddo 20 electron. Sawl electron sydd ym mhlisgyn allanol Calsiwm? a) 2 b) 1 c) 20 d) 8 e) 18 10) Mae'r rhif atomig yn dweud wrthym.... a) ym mha flwyddyn yn yr ugeinfed ganrif cafodd ei ddarganfod. b) sawl proton sydd yn niwclews atom o'r elfen. c) sawl electron sydd ym mhlisgynnau'r elfen. d) sawl niwtron sydd i atomau'r elfen. 11) Gellir rhannu'r Tabl Cyfnodol yn fetelau ac anfetelau. Pa 2 elfen o'r canlynol sy'n anfetelau? a) Carbon b) Argon c) Twngsten d) Sodiwm e) Potasiwm 12) Gellir rhannu'r Tabl Cyfnodol yn fetelau ac anfetelau. Pa 2 elfen o'r canlynol sy'n fetelau? a) Beryliwm b) Ffosfforws c) Heliwm d) Neon e) Magnesiwm 13) Gellir eu morthwylio mewn i ddolenni. a) Hydwyth b) Cawslyd c) Hydrin d) Disgyblion sy'n camymddwyn 14) Gellir tynnu metelau yn wifrau. a) Hydwyth b) Hydrin c) Meddal d) Amhosib 15) Nodwch y ddwy sy'n hylif AR DYMHEREDD YSTAFELL. a) Bromin b) Mercwri c) Nitrogen d) Aur 16) Mae metelau'n gallu dargludo trydan yn dda. Pa ANfetel sy'n dargludo trydan? a) Silicon b) Boron c) Carbon (yn ei ffurf Graffit) d) Heliwm 17) Meddyliwch am yr arbrawf (demo) adweithio Li, Na a K efo dwr. Mae adweithedd elfennau Grwp 1 yn ...................... wrth symud i LAWR y grwp. a) amrywio b) cynyddu c) lleihau d) ddibwys 18) Mae adweithedd elfennau Grwp 7 yn lleihau wrth fynd lawr y grwp. a) Gwir b) Gau 19) Gelwir atom sydd efo gwefr yn... a) ion. b) 'wired'. c) di-ddefnydd. d) elfen. 20) Dwy neu fwy o elfennau yn cael eu hadio at ei gilydd, heb fondio/uno. a) Elfen b) Cyfansoddyn c) Cymysgedd d) Anghyfeillgar 21) Sylwedd sy'n cynnwys 2 neu fwy o atomau o elfennau GWAHANOL, WEDI bondio/uno yn gemegol. a) Elfen b) Cyfansoddyn c) Powdr newydd d) Cymysgedd 22) Yr electronau sy'n cymryd rhan mewn adweithiau cemegol. Pan mae yna fwy o brotonau nag sydd electronau, bydd gan yr ion hwnnw gwefr... a) negatif b) positif c) niwtral 23) Yr electronau sy'n cymryd rhan mewn adweithiau cemegol. Pan mae yna fwy o electronau nag sydd protonau, bydd gan yr ion hwnnw gwefr... a) negatif b) positif c) niwtral 24) Nid oes gan "atomau" gwefr drydanol oherwydd mae nifer y protonau positif yn cydbwyso nifer yr electronau negatif. a) Gwir b) Gau 25) Mae gan ionau Grwp 1 wefr o 1+. Mae gan ionau Grwp 2 wefr o 2+. Mae gan ionau Grwp 7 wefr o 1- ac mae gan ionau Grwp 6 wefr o 2-. Pa wefr sydd ar ionau Grwp 0? a) 1+ b) 8+ c) 8- d) 1- e) Nid yw atomau Grwp 0 yn ffurfio ionau o gwbl - mae ganddynt blisgyn allanol llawn. 26) Cofiwch y Ddisgo Dadleoli (adweithedd)! Gall metel sydd ar waelod y Gyfres Adweithedd dadleoli unrhyw metel sy'n uwch na fo o'i gyfansoddyn. a) Gwir b) Gau 27) Potasiwm + Sinc ocsid -----> a) Potasiwm + Sinc ocsid (dim newid) b) Potasiwm sinclyd + Ocsigen c) Potasiwm ocsid + Sinc d) Potocsid + Sincigen 28) Ocsidio a) Cemegyn yn colli Ocsigen b) Cemegyn yn ennill Ocsigen 29) Rhydwytho a) Cemegyn yn colli Ocsigen b) Cemegyn yn Ennill Ocsigen 30) Defnyddir y Ffwrnais Chwyth i echdynnu a) Haearn b) Dur c) Alwminiwm 31) Golyga Electrolysis "hollti efo trydan" a defnyddir hyn ar gyfer echdynnu... a) Haearn b) Dur c) Alwminiwm

av Anonymt

Rankningslista

Tema

Alternativ

Växla mall

Återställ sparas automatiskt: ?