A: Nos Wener. Hwrê! Beth wyt ti am wneud dros y penwythnos? , B: Os bydd hi’n braf, dw i’n credu a i am dro i’r goedwig tu ôl i’r tŷ yfory. , A: Braf! Dw i wrth fy modd yn mynd am dro. , B: Mae croeso i ti ddŵad efo fi. , A: Mi ddo i rywbryd, ond ddim yfory. Mi fydda i yn y tŷ drwy’r dydd – yn addurno’r lolfa. , B: Bechod. Mi helpa i ti ddydd Sul os wyt ti eisiau. , A: Sgen ti amser? Mi fasai hynny’n wych. , B: Dim problem. Erbyn pryd ddo i draw? , A: Tyrd draw erbyn deg. Mi fyddwn ni’n siŵr o orffen erbyn pump ac mi wna i swper i ti. , B: Dyna ni ‘ta. Dyna fy mhenwythnos wedi’i drefnu. Crwydro’r goedwig yfory a phapuro ddydd Sul. Mi wela i ti fore Sul. Gwela i ti fore Sul..

Leaderboard

Estilo ng visual

Mga pagpipilian

Magpalit ng template

Ibalik ng awtomatikong pag-save: ?