Pa mor bell dych chi’n byw o’r dosbarth? - Dw i'n byw tua phum milltir o'r dosbarth, Beth fyddwch chi’n ei ddathlu nesa? - Bydda i'n dathlu'r Pasg nesa, Cymharwch ddau fis (Defnyddiwch -ach) - Mae mis Ionawr yn oerach na mis Gorffennaf, Dwedwch rywbeth am eich cymdogion chi - Mae fy nghymdogion yn gyfeillgar iawn, Beth dych chi’n hoffi ei fwyta amser brecwast? - Dw i ddim yn hoffi bwyta brecwast, ond dw i'n hoffi yfed llawer o goffi amser brecwast, Cymharwch y tywydd heddiw a ddoe. - Roedd hi'n wlypach ddoe na heddiw, Pa mor hen yw eich car chi? - Mae fy nghar i tua saith mlynedd oed, Beth dych chi’n ei fwynhau am y Nadolig? - Dw i'n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu dros y Nadolig, Pa fis yw’r gwlypa yng Nghymru? - Mis Chwefror yw'r mis gwlypa yng Nghymru, Pa un yw eich hoff ffilm chi? - The Sound of Music yw fy hoff ffilm i, Pa fwyd dych chi ddim yn ei hoffi? - Dw i ddim yn hoffi cyrri. Dw i ddim yn hoffi sushi chwaith, Beth yw enw’r gwesty druta yn yr ardal? - The Hilton yw enw’r gwesty druta yn yr ardal, Pwy yw eich hoff ganwr/gantores chi? - Dafydd Iwan yw fy hoff ganwr, Beth yw’ch enw llawn chi? - Cathy MacGillivray yw fy enw llawn i, Dwedwch rywbeth am eich tŷ chi pan o’ch chi’n blentyn. - Ro'n i'n byw mewn tŷ par, gyda tair ystafell wely a dim gwres canolog pan o'n i'n blentyn. Roedd gardd fawr gyda ni, Pwy yw’r ifanca yn eich teulu chi? - Fy ŵyr yw'r ifanca yn fy nheulu i, Beth yw’r peth anodda am ddysgu Cymraeg? - Y treigladau yw’r peth anodda am ddysgu Cymraeg, Beth dych chi’n hoffi ei goginio? - Dw i'n hoffi coginio cinio rhost, Beth yw’r rhaglen deledu orau ar hyn o bryd? - Pobl y Cwm yw’r rhaglen deledu orau ar hyn o bryd, Beth yw’ch cyfenw chi? - MacGillivray yw fy nghyfenw i, Pa mor hir yw eich taith chi i’r dosbarth? (amser) - Mae'n cymryd hanner awr i fi gyrraedd y dosbarth, Pa mor braf oedd hi ddoe? - Doedd hi ddim yn braf o gwbl ddoe, Pa fis yw’r oera yng Nghymru? - Mis Ionawr yw’r mis oera yng Nghymru, Oes anifail dych chi ddim yn ei hoffi? - Dw i ddim yn hoffi buchod, Pa waith yn y tŷ dych chi ddim yn ei hoffi o gwbl? - Dw i'n casáu smwddio. A dweud y gwir, dw i ddim yn hoffi gwaith tŷ o gwbl, Beth oedd eich cyfenw chi pan gawsoch chi eich geni? - Millar oedd fy nghyfenw pan ges i fy ngeni, Beth wnaethoch chi nos Sadwrn? - Arhosais i yn nhŷ fy mab nos Sadwrn, Cymharwch ddwy dref. (prysur) - Mae Efrog Newydd yn brysurach na Chaerdydd, Cymharwch ddwy siop. (drud) - Mae Waitrose yn ddrutach nag Aldi, Dych chi’n hoffi dathlu Nos Galan? Pam?/Pam lai? - Nac ydw. Dw i ddim yn hoffi mynd i'r gwely yn hwyr, Pwy yw’r person mwya doniol ar y teledu? - Paul Merton yw'r person mwya doniol ar y teledu, Dwedwch rywbeth am eich tŷ chi. - Mae fy fflat i'n fach, gyda dwy ystafell wely, un gegin, un ystafell ymolchi, un ystafell fyw ac un ystafell fwyta. Does dim gardd gyda fi, sy'n beth da achos dw i'n casáu garddio., Beth do’ch chi ddim yn hoffi ei fwyta pan o’ch chi’n blentyn? - Do'n i ddim yn hoffi bwyta cig oen pan o'n i'n blentyn, Cymharwch ddau fwyd. (blasus) - Mae brocoli yn fwy blasus na seleri, Beth ddathloch chi ddiwetha? - Dathlais i benblwydd fy mab ddiwetha. , Pa mor brysur fyddwch chi y penwythnos yma/nesa? - Bydda i'n brysur iawn y penwythnos yma achos bydda i'n glanhau'r tŷ, Pa fath o gerddoriaeth dych chi ddim yn ei hoffi? - Dw i ddim yn hoffi cerddoriaeth glasurol, Ym mha fis mae eich pen-blwydd chi? - Mae fy mhenblwydd i ym mis Ionawr, Pa un yw eich hoff dŷ bwyta chi? - Fy hoff dŷ bwyta yw Miller & Carter achos dw i'n hoffi stêc, Pa ddiod dych chi ddim yn ei hoffi? - Dw i ddim yn hoffi coca cola, Pwy yw’r hena yn eich teulu chi? - Fi yw'r hena yn fy nheulu i, Beth dych chi ddim yn ei fwynhau am y Nadolig? - Dw i ddim yn hoffi golchi'r llestri ar ôl cinio Nadolig, Pa fath o raglenni teledu dych chi ddim yn eu hoffi? - Dw i ddim yn hoffi rhaglenni realiti, Dwedwch rywbeth am eich hoff le chi yn yr ardal. - Parc y Rhath yw fy hoff le yn yr ardal. Dych chi'n gallu cerdded o gwmpas y llyn, neu ymlacio yn yr ardd rosys, neu mynd â'r plant i'r maes chwarae. , Beth yw’r peth pwysica wrth ddysgu Cymraeg? - Ymarfer siarad, heb boeni am y camgymeriadau, yw'r peth pwysica wrth ddysgu Cymraeg, Dwedwch rywbeth am eich tŷ diwetha chi. - Ro'n i'n byw mewn tŷ ar wahân. Roedd e'n fawr, ac roedd yr ardd yn fawr hefyd. Roedd y tŷ yn dda i deulu, ond yn rhy fawr i un person, felly symudais i ar ôl i'r plant adael., Pwy yw’r person prysura dych chi’n nabod? - Fy mab ifanca yw'r person prysura dw i'n nabod. , Pa mor bell yw’r orsaf drenau agosa o’ch tŷ chi? - Mae'r orsaf drenau agosa tua dwy filltir o fy nhŷ , Pryd dych chi hapusa? - Dw i'n hapusa pan dw i'n cysgu, Pa mor braf oedd hi mis Awst diwetha? - Roedd hi'n heulog ac yn gynnes, dw i'n meddwl , Pryd siaradoch chi â’r cymdogion ddiwetha? - Siaradais i a'r cymdogion tua dwy awr yn ôl. , Pa mor brysur o’ch chi y penwythnos diwetha? - Do'n i ddim yn brysur o gwbl y penwythnos diwetha achos ro'n i ar wyliau,
0%
Sylfaen uned 21 Cwestiynau Adolygu gydag atebion enghreifftiol
Sdílet
podle
Cathycymraeg
Cymraeg i Oedolion
Sylfaen
Upravit obsah
Vložit
Více
Výsledková tabule/Žebříček
Flash karty
je otevřená šablona. Negeneruje skóre pro žebříček.
Vyžaduje se přihlášení.
Vizuální styl
Fonty
Je vyžadováno předplatné
Možnosti
Přepnout šablonu
Zobrazit vše
Při přehrávání aktivity se zobrazí další formáty.
Otevřené výsledky
Kopírovat odkaz
QR kód
Odstranit
Obnovit automatické uložení:
?