1) Pa mor bell dych chi’n byw o’r dosbarth? 2) Beth fyddwch chi’n ei ddathlu nesa? 3) Cymharwch ddau fis (Defnyddiwch -ach) 4) Dwedwch rywbeth am eich cymdogion chi 5) Beth dych chi’n hoffi ei fwyta amser brecwast? 6) Cymharwch y tywydd heddiw a ddoe. 7) Pa mor hen yw eich car chi? 8) Beth dych chi’n ei fwynhau am y Nadolig? 9) Pa fis yw’r gwlypa yng Nghymru? 10) Pa un yw eich hoff ffilm chi? 11) Pa fwyd dych chi ddim yn ei hoffi? 12) Beth yw enw’r gwesty druta yn yr ardal? 13) Pwy yw eich hoff ganwr/gantores chi? 14) Beth yw’ch enw llawn chi? 15) Dwedwch rywbeth am eich tŷ chi pan o’ch chi’n blentyn. 16) Pwy yw’r ifanca yn eich teulu chi? 17) Beth yw’r peth anodda am ddysgu Cymraeg? 18) Beth dych chi’n hoffi ei goginio? 19) Beth yw’r rhaglen deledu orau ar hyn o bryd? 20) Beth yw’ch cyfenw chi? 21) Pa mor hir yw eich taith chi i’r dosbarth? (amser) 22) Pa mor braf oedd hi ddoe? 23) Pa fis yw’r oera yng Nghymru? 24) Oes anifail dych chi ddim yn ei hoffi? 25) Pa waith yn y tŷ dych chi ddim yn ei hoffi o gwbl? 26) Beth oedd eich cyfenw chi pan gawsoch chi eich geni? 27) Beth wnaethoch chi nos Sadwrn? 28) Cymharwch ddwy dref. (prysur) 29) Cymharwch ddwy siop. (drud) 30) Dych chi’n hoffi dathlu Nos Galan? Pam?/Pam lai? 31) Pwy yw’r person mwya doniol ar y teledu? 32) Dwedwch rywbeth am eich tŷ chi. 33) Beth do’ch chi ddim yn hoffi ei fwyta pan o’ch chi’n blentyn? 34) Cymharwch ddau fwyd. (blasus) 35) Beth ddathloch chi ddiwetha? 36) Pa mor brysur fyddwch chi y penwythnos yma/nesa? 37) Pa fath o gerddoriaeth dych chi ddim yn ei hoffi? 38) Ym mha fis mae eich pen-blwydd chi? 39) Pa un yw eich hoff dŷ bwyta chi? 40) Pa ddiod dych chi ddim yn ei hoffi? 41) Pwy yw’r hena yn eich teulu chi? 42) Beth dych chi ddim yn ei fwynhau am y Nadolig? 43) Pa fath o raglenni teledu dych chi ddim yn eu hoffi? 44) Dwedwch rywbeth am eich hoff le chi yn yr ardal. 45) Beth yw’r peth pwysica wrth ddysgu Cymraeg? 46) Dwedwch rywbeth am eich tŷ diwetha chi. 47) Pwy yw’r person prysura dych chi’n nabod? 48) Pa mor bell yw’r orsaf drenau agosa o’ch tŷ chi? 49) Pryd dych chi hapusa? 50) Pa mor braf oedd hi mis Awst diwetha? 51) Pryd siaradoch chi â’r cymdogion ddiwetha? 52) Pa mor brysur o’ch chi y penwythnos diwetha?

Sylfaen uned 21 Cwestiynau Adolygu

Bảng xếp hạng

Phong cách trực quan

Tùy chọn

Chuyển đổi mẫu

Bạn có muốn khôi phục tự động lưu: không?