"Mae pobl yn defnyddio gormod ar eu ffôn symudol.", "Dylen ni brynu bwyd lleol drwy'r amser.", "Y trên yw'r ffordd orau o deithio.", "Dyw pobl ddim yn nabod eu cymdogion y dyddiau yma.", "Mae ymddeol yn gynnar yn syniad gwych!", "Mae pobl yn treulio gormod o amser ar Facebook!", Dyddiau ysgol = Dyddiau da?, "Mae safon rhaglenni teledu wedi mynd i lawr.", "Mae Cymru'n dibynnu ar dwristiaid.", "Mae ymarfer corff yn fwy pwysig na bwyta'n iach.", "Mae'r ffordd mae pobl yn siopa'n newid.", "Mae pobl yn gweithio'n rhy galed y dyddiau yma.", "Mae'n anodd cadw'n heini.", "Dylen ni brynu bwyd a diod sy'n dod o Gymru.", "Mae cadw anifeiliaid anwes yn dda i chi.", "Mae dysgu iaith arall yn hawdd.", "Dylai pawb siopa yn y siopau bach.", "Mae gwyliau ysgol yn rhy hir.", "Mae plant heddiw'n rhy brysur.", "Mae bywyd yn well, diolch i dechnoleg newydd.", "Mae gormod o geir ar y ffordd.", "Mae cymdogion da'n bwysig.", "Mae bywyd yn anodd i bobl ifanc y dyddiau yma.", "Mae gwyliau yng Nghymru'n well na gwyliau tramor.", Pa sgiliau ddylai pawb meddu arnynt?, Beth yw'r mwyaf o hwyl gallwch gael mewn sero disgyrchiant?, Ydy hi'n bosib dysgu creadigrwydd?, "I'r pant y rhed y dŵr". Ydych chi'n meddwl bod pobl yn cael eu geni'n lwcus, neu ydyn nhw'n creu lwc eu hun?, Ydych chi'n meddwl bod rhai elusennau ddim gwerth cefnogi?, Beth yw'r peth gorau i'w wneud ar ddiwrnod gwlyb, oer a ddiflas?, Beth sy'n gwneud person yn edmygadwy?, Beth sy'n gwneud person yn brydferth?, "Mae beth sy'n eich gwneud yn hapus yn y tymor byr yn eich gwneud yn anhapus yn y tymor hir.", Ydy hysbysebion yn effeithio ar beth dych chi'n penderfynu prynu?, "Ddylai neb gadw anifeiliaid anwes!", Ydy agweddau tuag at harddwch wedi newid dros y blynyddoedd?, Beth sy'n gwneud darn da o arlunwaith?, Beth yw'r peth mwyaf prydferth yn eich bywyd?, Ydych chi'n hoffi cael sialens, neu oes gwell gyda chi bod pethau'n hawdd? Pam?, Beth yw'r swydd mwyaf anodd y gallwch chi feddwl amdano?, "Mae gwynebu sialensau mewn bywyd yn bwysig er mwyn gwella cymeriad person.", Beth yw'r sialens mwyaf mae'r gwlad yn gwynebu ar hyn o bryd?, Pwy yw'r person mwyaf diddorol yn eich teulu estynedig?, Ydy hi'n bosib i rywun newid ei bersonoliaeth?, Fasech chi'n ymuno â chriw i goloneiddio planed newydd tasai'n golygu basech chi byth yn gallu dychwelyd i'r Ddaear?, Beth yw eich llwyddiant mwya? Beth am eich methiant mwya?, Pwy yw'r person mwya llwyddiannus dy'ch chi'n nabod?, Beth yw'r peth gorau a'r peth gwaethaf am eich teulu?, Pwy yw eich ffrind mwyaf rhyfedd? Beth sy'n eu gwneud yn rhyfedd?, Pwy sy'n rhoi anrhegion da yn eich teulu? Pwy sy'n rhoi anrhegion gwael?, "Mae gwneud arbrofion ar anifeiliaid yn angenrheidiol ar gyfer gwarchod iechyd pobl.", Oes gwell gyda chi cael anrheg neu arian? Pam?, "Mae'r diwedd ar y gorwel i bapurau newyddion a chylchgronnau papur.", Pa lyfr neu ffilm doeddech chi ddim yn hoffi ond roedd pawb arall yn dwlu arno / arni?, Mae rhaglenni teledu realiti yn ffordd dda a gwyddonol o ddeall pobl a'u cymeriadau, Pa raglen sydd wedi dod i ben yr oeddech chi'n wirioneddol ei hoffi?, Fasai'n well gyda chi gael llawer o ffrindiau neu ychydig o ffrindiau agos?, Ydy hi'n bosib i berson ddysgu sut i fod yn hapusach?, Ydy dynolryw yn symud tuag at gyfeiriad dda?, Pa ddarganfyddiad neu ddarganfyddiadau all newid llwybr dynol yn gyfangwbl?, Pa mor hir hoffech chi fyw? Pam?, Sut bydd bywyd mewn deg mlynedd? Ugain mlynedd? Hanner can mlynedd? Chan mlynedd?, "Mae newid hinsawdd yn rhan o broses naturiol. Dyw e ddim yn ganlyniad o weithgareddau dynol.", Pam mae stereoteipiau mor gyffredin?, "Mae pobl yn hapusach heddiw nag oeddent yn y gorffennol.", Beth sy'n creu hapusrwydd tymor hir?, Ydych chi erioed wedi cael eich siomi gan rywun yr oeddech chi'n eu hedmygu?, Pwy oeddech chi'n edmygu pan oeddech yn blentyn? Pam?, Pa swydd yw'r mwyaf arwrol?, "Mae dyfodol Cymru'n ddibynnol ar greadigrwydd.", Pwy yw'r person mwyaf creadigol dych chi'n nabod?, Pa swyddi sydd angen y fwyaf o greadigrwydd?, "Mae pwysedd meddyliol yn cynyddu'r dyddiau yma ac yn uwch nag erioed mewn hanes.", Petaech chi'n arch-arwr, pa bŵerau arbennig basai gyda chi?, "Mae apiau a gwefannau dêtio yn well ffordd i ddod o hyd i gariad na ffyrdd traddodiadol y dyddiau yma.", Ydych chi'n meddwl dylai pobl ddi-waith cael eu gorfodi i wirfoddoli?, Pa bethau hoffech chi wneud cyn i chi farw?, Ydych chi'n meddwl bod bywyd yn bodoli ar blaned arall?, "Ddylai neb yfed mwy na phedair paned o goffi pob dydd.", Beth oedd eich swydd gwaethaf erioed?, Beth oedd eich swydd mwyaf diddorol?, Beth dy'ch chi'n meddwl o anrhegion sydd wedi cael eu gwneud â llaw?, Sut baswch chi'n disgrifio eich personoliaeth? Fasai pobl arall yn eich disgrifio yn yr un ffordd neu'n wahanol?, Dych chi'n meddwl bydd twristiaeth yn tyfu yn y gofod yn y dyfodol agos? Pam?, Pa draddodiadau arbennig neu unigryw sydd yn eich teulu chi?, Ydych chi'n poeni am ddiogelwch ceir sy'n gyrru eu hunain?, Fasech chi'n prynu car sy'n gallu gyrru ei hun tasai'r arian gyda chi, Pa mor bryderus ydych chi ynglyn â phreifatrwydd dyddiau yma?, "Mae diweddariadau technoleg yn ein gorfodi i brynu ffônau symudol newydd yn rhy aml.", Ydych chi'n hoffi chwarae gemau bwrdd?, "Mae pensaernïaeth modern yn hyll.", Pa ffasiwn presennol bydd yn edrych y fwya gwirion ymhen ugain mlynedd?, Ydych chi'n arfer dilyn ffasiwn neu gwisgo fel a mynnech chi? Ydych chi erioed wedi bod â'r agwedd hyn tuag at ffasiwn?, Beth sydd ar y we na allech chi bodoli hebddo?, Beth sy'n gwneud i chi hoffi neu i gasau person enwog? Beth am berson go iawn?, "Dyw pobl ddim yn darllen llawer y dyddiau yma.", Ydy ymddeoliad wedi newid dros y blynyddoedd?, Pa stereoteipiau sy'n eich adlewyrchu chi? Ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n gywir?.

Leaderboard

Speaking cards is an open-ended template. It does not generate scores for a leaderboard.

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?