Ace - Term ymbarél sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth mewn lefelau o atyniad rhamantus a/neu rywiol, gan gynnwys dim atyniad., Ailbennu Rhywedd - Ffordd arall o ddisgrifio proses drawsnewid rhywun. Fel arfer bydd mynd drwy broses ailbennu rhywedd yn golygu cael rhyw fath o driniaeth feddygol, ond gall hefyd olygu newid enwau, rhagenwau, gwisgo'n wahanol a byw yn y rhywedd maen nhw'n ei arddel., Anneuaidd - Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu hunaniaeth rhywedd yn ffitio'n syml i ddewis deuaidd o 'ddyn' neu 'fenyw'. Mae hunaniaethau anneuaidd yn amrywiol a gallant gynnwys pobl sy'n arddel rhai elfennau o hunaniaethau deuaidd, tra bod eraill yn eu gwrthod yn llwyr., Cwiar/ Queer - Term a ddefnyddir gan bobl sydd eisiau gwrthod labeli penodol ar gyfer cyfeiriadedd rhamantus, cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd yw queer. Gall fod yn ffordd hefyd o wrthod normau tybiedig y gymuned LHDT (hiliaeth, maintiaeth, ablaeth ac ati). Er bod rhai pobl LHDT yn ystyried y gair yn sarhad, cafodd ei adfeddiannu ar ddiwedd yr wythdegau gan y gymuned cwiar, sydd wedi'i berchnogi., Cydryweddol - Rhywun y mae eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Dyma'r term am bawb heblaw pobl draws., Cyfunrywiol - Gellir ystyried hwn yn derm mwy meddygol i ddisgrifio rhywun sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at rywun o'r un rhywedd. Mae'r term 'hoyw' yn fwy cyffredin bellach., Deurywiol - Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at fwy nag un rhywedd., Hoyw - Term i ddisgrifio dyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus l tuag at ddynion. Mae hefyd yn derm cyffredinol ar gyfer rhywioldeb hoyw a lesbiaidd, Panrywiol - Term sy'n cyfeirio at rywun nad yw'n cael ei gyfyngu o ran atyniad rhywiol at bobl eraill ar sail rhyw biolegol, rhywedd neu hunaniaeth rhywedd y bobl hynny., Rhywedd/ Gender - Yn aml yn cael ei ddatgan mewn termau gwrywaidd a benywaidd, mae **** yn bennaf yn cael ei benodi drwy ddiwylliant ac yn cael ei dybio o'r rhyw cafwyd ei geni ynddo., Traws - Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, neu lle mae gwrthdaro rhwng eu rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo.,

Leaderboard

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?