1) Mewn electrolysis, beth yw enw'r electrod negatif? a) Electrolyt b) Catod c) Anod 2) Beth sy'n digwydd ar yr anod yn ystod electrolysis? a) Mae ïonau negatif yn ennill electronau b) Mae ïonau positif yn ennill electronau c) Mae ïonau negatif yn colli electronau 3) Yn ystod electrolysis plwm(II) bromid tawdd, beth yw'r cynnyrch ar yr anod? a) Plwm b) Bromin c) Ocsigen 4) Beth yw'r hafaliad cywir ar gyfer ffurfio nwy clorin ar yr anod yn ystod electrolysis hydoddiant sodiwm clorid crynodedig? [Haen uwch yn unig] a) 2Cl- + 2e- → Cl2 b) Cl- → Cl + e- c) 2Cl- → Cl2 + 2e- 5) Ble mae ocsidio'n digwydd yn ystod electrolysis? [Haen uwch yn unig] a) Ar yr anod b) Ar y catod c) Yn yr electrolyt 6) Pa nwy sy'n ffurfio ar yr electrod positif wrth i ni ddefnyddio electrolysis i echdynnu alwminiwm? a) Ocsigen b) Hydrogen c) Alwminiwm 7) Electrodau o ba ddefnydd rydyn ni'n eu defnyddio i echdynnu alwminiwm? a) Alwminiwm b) Graffit c) Dur 8) Beth yw cyflwr ffisegol yr electrolyt wrth i ni echdynnu alwminiwm? a) Hydoddiant dyfrllyd b) Hylif tawdd c) Solid 9) Beth yw'r cynhyrchion ar yr electrodau wrth i ni echdynnu alwminiwm? a) atod = ocsigen, anod = alwminiwm b) Catod = alwminiwm, anod = clorin c) Catod = alwminiwm, anod = ocsigen 10) Pam rydyn ni'n hydoddi alwmina (alwminiwm ocsid) mewn cryolit tawdd? a) I ostwng y tymheredd b) I gyflymu'r adwaith c) I gynyddu'r tymheredd

Leaderboard

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?